Amdanaf

Helo, Lois ydw i. Dw i'n byw ym Mhwllheli gyda dau o blant a fy nghariad, Rhys. Mae bywyd yn brysur, yn swnllyd, a byth yn ddiflas - yn union fel mae o fod. Dw i di bod yn greadigol erioed - boed hynny'n gwneud, dylunio, neu'n meddwl am syniadau i wneud achlysur bob dydd deimlo'n fwy arbennig. I mi, nid hobi yn unig yw creadigrwydd, mae'n rhan o bwy ydw i, a dw i wrth fy modd yn dod o hyd i ffyrdd newydd o roi hynny ym mhopeth dw i'n ei wneud. Dw i wrth fy modd â cherddoriaeth ac wedi bod ag obsesiwn efo cerddoriaeth gwlad ers ymhell cyn iddi fod yn "cŵl" ;) Dw i'n hoffi playlists, canu nerth fy mhen (yn wael!) mewn cyngerdd, mae'n debyg y byddwch chi'n dod o hyd i mi yn cynllunio'r daith nesaf, yn llusgo pawb allan am dro, neu'n chwilio am yr antur fach nesaf. Dw i'n credu'n fawr fod "llai yn fwy" - mae manylion bach syml, wedi'u gwneud yn dda, bob amser yn cael yr effaith fwyaf a dyma beth dw i'n anelu at ei wneud gyda LLEWES.